Bu farw’r actor Leslie Grantham, a oedd yn enwog am chwarae’r cymeriad ‘Dirty Den’ yn EastEnders, yn 71 oed.

Yn ôl datganiad gan ei gynrychiolwyr, bu farw’r gŵr o Gamberwell, de Llundain, toc cyn 10:30 y bore yma.

Roedd yn enwog am fod yn un o gymeriadau gwreiddiol yr opera sebon EastEnders, a ddechreuodd yn 1985.

Mi adawodd y gyfres yn 1989 ar ôl i’w gymeriad gael ei ‘ladd’, ond fe ddychwelodd yn ddirybudd am gyfnod yn 2003.

Bu hefyd yn cyflwyno’r rhaglen gemau, Fort Boyard, yn ystod y 1990au ar y cyd â Melinda Messenger.