Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r cyn-gyflwynydd teledu, Dale Winton, sydd wedi marw yn 62 oed.

Fe gyhoeddodd asiant y seren deledu neithiwr ei fod wedi marw yn ei gartref yn Llundain yn gynharach ddoe (dydd Mercher, Ebrill 18).

Mewn datganiad, dywedodd ei fod yn ymwybodol y bydd nifer yn “rhannu’r golled”, ond bod y teulu yn dymuno “preifatrwydd” yn ystod y cyfnod galaru.

Gyrfa Dale Winton

Fe ddaeth Dale Winton, a oedd yn fab i’r actores, Sheree Winton, i enwogrwydd wrth gyflwyno rhaglenni gemau poblogaidd megis Supermarket Sweep ac In It To Win It – un o raglenni’r Loteri Genedlaethol.

Roedd Supermarket Sweep yn un o raglenni mwyaf poblogaidd y 1990au, lle’r oedd rhaid i gystadleuwyr fynd ar ras o gwmpas archfarchnad ffug yn casglu nwyddau.

Bu Dale Winton hefyd yn cyflwyno’r rhaglen gemau, Hole In The Wall, ac yn ddiweddar, roedd wedi bod yn ffilmio rhaglen newydd ar gyfer Channel 5, sef Dale Winton’s Florida Fly.

Fe gyfaddefodd yn 2016 ei fod wedi brwydro ag iselder yn y gorffennol, a hynny yn dilyn tor-perthynas.

“Y cyflwynydd perffaith”

Yn dilyn y cyhoeddiad am ei farwolaeth, mae nifer o enwogion a chyfeillion wedi talu teyrnged iddo.

Yn ôl y gyflwynwraig, Davina McCall, roedd yn ddyn “hyfryd, cynnes a charedig”, gyda ychydig o “ddireidi” yn perthyn iddo.

Mae Kate Phillips, rheolwr yn yr adran adloniant yn y BBC, yn dweud bod Dale Winton yn unigolyn a ddaeth ag “egni unigryw ac arbennig” i nifer o raglenni a gyflwynodd ar hyd y blynyddoedd.

Mae’r cyflwynydd, Paddy McGuniess, wedyn wedi dweud mai Dale Winton oedd y “cyflwynydd perffaith”.

“Newyddion trist,” meddai ar y wefan gymdeithasol, Twitter. “Ar un adeg, Supermarket Sweep oedd y rhaglen i’w wylio.”

“Roedd Dale Winton yn gyflwynydd perffaith – fe wnaeth y cyfan i edrych yn ddiymdrech.”