Y gyflwynwraig teledu a radio, Beti George, fydd yn derbyn Gwobr Cyfraniad Oes John Hefin 2018, a hynny fel rhan o Ŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin.

Mae’r wobr yn cael ei chyflwyno er cof am y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr drama, John Hefin,  a fu farw yn 2012.

Dyma’r drydedd flwyddyn i’r wobr gael ei dyfarnu i unigolyn fel cydnabyddiaeth o oes o waith ym meysydd y cyfryngau, teledu, ffilmiau neu theatr yng Nghymru.

Euryn Ogwen Williams oedd y cyntaf i dderbyn y wobr yn 2016, ac Endaf Emlyn a’i derbyniodd yn 2017.

Bydd y seremoni wobrwyo yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Stradey Park yn Llanelli, a hynny ar Fai 17.

Mi fydd y noson yn cael ei harwain gan y darlledwr, Arfon Haines Davies, sy’n un o brif noddwyr Gwyl Ffilm Bae Caerfyrddin.