Fe fydd gŵyl yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd fis nesaf i helpu gwneuthurwyr ffilm y dyfodol.

Mae’r digwyddiad Gŵyl Guru Live ar Ebrill 28 wedi’i gefnogi gan BAFTA Cymru, ac mae wedi’i threfnu’n benodol ar gyfer pobol sydd am ddilyn gyrfa yn y maes creadigol.

Fe fydd digwyddiad tebyg yn Glasgow ar yr un diwrnod, ac un arall yn Llundain ar Fedi 15-16.

Mae’r ŵyl yn estyniad o ddigwyddiad BAFTA Guru, sy’n adnodd ar-lein sy’n tynnu ar brofiadau nifer o arweinwyr yn y maes ffilmiau, gemau a theledu. Fe fyddan nhw’n cynnig dosbarthiadau meistr ar wahanol elfennau’r byd ffilm ac yn cynnal sesiynau holi ac ateb.

Mae tocynnau ar gyfer y digwyddiad ar Gampws Canol y Ddinas Coleg Caerdydd a’r Fro ar gael fesul sesiwn am £6.

‘Ychwanegiad gwych’

“Mae Guru Live wedi datblygu’n gyflym i fod yn un o’m hoff ddigwyddiadau yng nghalendr BAFTA, gan roi bywyd i’r treiddgarwch a welir ar ein safle BAFTA Guru a chreu deialog rhwng pobl ddawnus sy’n dod i’r amlwg a rhai mwy sefydledig,” meddai Tim Hunter, Cyfarwyddwr Dysgu a Doniau Newydd BAFTA.

“Mae’n wych y byddwn ni yng Nghymru eleni yn ogystal â’r Alban a Lloegr, gan alluogi mwy o bobl i glywed gan arbenigwyr y diwydiant, a rhwydweithio â’u cymheiriaid.”