Mae’r actor, Michael Douglas, wedi datgelu bod yr honiadau am ei ymddygiad rhywiol dros 30 o flynyddoedd yn ôl wedi “ypsetio” ei wraig Catherine Zeta Jones a’u plant, Dylan a Carys.

Mae’r Americanwr yn briod â’r Gymraes o Abertawe ers 2000, ac mae ganddyn nhw ddau o blant.

Yn ôl adroddiadau, mae’r actor wedi trafod yr honiadau cyn iddyn nhw ddod yn gyhoeddus, gan ddweud ei fod yn teimlo bod angen “achub y blaen” ar gyn-weithwraig, sy’n honni ei fod e wedi cyflawni gweithred rywiol tra ei bod hi’n bresennol.

Mae hi hefyd yn honni iddo ddefnyddio “iaith liwgar” – ac mae’n cyfaddef fod hynny’n bosibilrwydd, ond mae’n gwadu’r weithred rywiol honedig, gan ddweud fod y cyfan yn “gelwydd”.

Dywedodd fod ei blant yn gofidio am enw da eu tad yn sgil yr honiadau sydd wedi’u derbyn gan The Hollywood Reporter, ac roedd disgwyl i gylchgrawn Variety eu cyhoeddi hefyd.

Mae lle i gredu bod yr ymddygiad honedig wedi digwydd “tua 32 o flynyddoedd yn ôl”.

‘Wedi’i lorio’

Dywed Michael Douglas ei fod e wedi cael ei “lorio” gan yr honiadau a’r ffaith fod modd eu cyhoeddi “heb eu profi”.

“Mae’n destun poen eithriadol,” meddai. “Dw i’n ymfalchïo yn fy enw da yn y busnes yma, heb sôn am hanes hir fy nhad [yr actor Kirk Douglas] a phopeth arall.”

Ychwanegodd nad oes ganddo fe “ddim byd i’w guddio”, gan ofyn “pam ddiawl fyddai unrhyw un yn gwneud hyn?”

“Y peth gwaethaf oedd wedi peri’r boen fwyaf oedd gorfod rhannu rhywbeth fel hyn gyda’ch gwraig a’ch plant.

“Mae fy mhlant wedi ypsetio go iawn, ac yn gorfod mynd i’r ysgol gan boeni bod hyn yn mynd i fod mewn rhyw erthygl amdana i a ’mod i’n aflonyddwr rhywiol.

“Maen nhw’n llawn ofn ac yn anghyfforddus iawn.”

Dywedodd ei fod yn “ddiolchgar” am gefnogaeth ei wraig a’i blant, a bod y cyfan yn “hunllef”.