Mae cyn-Brif Weithredwr S4C, Ian Jones, wedi cael ei anrhydeddu â gradd DLitt gan Brifysgol Abertawe heddiw.

Daw Ian Jones yn wreiddiol o Dreforys, ger Abertawe, ac ar ôl bod yn aelod o dîm sefydlu S4C yn 1982, bu’n gweithio ar raglenni rhwydwaith adloniant gydag ITV ac yn gynhyrchydd annibynnol, cyn ailymuno ag S4C fel Cyfarwyddwr Busnes, Cynyrchiadau Rhyngwladol a Chydgynyrchiadau rhwng 1992 a 1997.

Bu wedyn yn dal swyddi uwch gyda Scottish Television, United News And Media (ITEL) a Granada International, ynghyd â bod yn Gadeirydd Diwydiant Dosbarthiad Teledu Prydain (BTDA), Llywydd National Geographic Television International, a Chyfarwyddwr Rheoli’r grŵp adloniant Targed.

Dychwelodd unwaith yn rhagor i S4C yn 2011, lle bu’n Brif Weithredwr tan 2017.

Braint

Wrth dderbyn y radd yn seremoni raddio’r Ysgol Reolaeth, dywedodd Ian Jones ei bod yn “fraint” derbyn yr anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.

“Cefais fy ngeni a’m magu yn Abertawe,” meddai, “ac fe ddarparodd fy mywyd cynnar a ’mhrofiad academaidd yn y maes, y sylfaen amhrisiadwy ar gyfer gyrfa yn y diwydiant teledu.

“Mae’r yrfa honno wedi caniatáu i mi weithio ledled y byd mewn llefydd mor bell i ffwrdd ag Efrog Newydd a Washington, Beijing a Sydney.”