Gareth Jones
Mae Aelod Cynulliad Aberconwy wedi dweud y gallaiS4C fod yn ragor o gymorth i gymunedau Cymraeg, er mwyn eu cadw’n fyw.

Mae Gareth Jones yn canmol gwaith S4C wrth gefnogi’r diwydiant darlledu yn y gogledd ond yn pryderu bod llawer o’r swyddi fu mewn ardaloedd fel Caernarfon bellach wedi symud i Gaerdydd.

“Mae llawer iawn o lwyddiannau S4C yn ymwneud â chymunedau,” meddai. “Un o’r rheiny ydy Pobol y Cwm. Ond sawl Pobol y Cwm sydd ganddom ni yng Nghymru bellach? O ran arian S4C, beth sydd rhaid gofyn yw nid ydyn ni eisiau achub S4C – mae hynny’n sefyll i reswm – ond pa werth sydd gan y sianel o ran hyrwyddo a sicrhau bod buddsoddiad yn achosi twf?

“Beth sy’n bwysig ydy cyfraniad S4C i’r Gymraeg ac i’r cymunedau Cymraeg. Mae’n golygu gallu cynnal swyddi nid yn unig yng Nghaerdydd ond dros Gymru.”

Mae’n gwrthod unrhyw awgrym ei fod yn wrth-Gaerdydd gan fynnu ei fod yn dathlu bod y Cymry Cymraeg sydd wedi symud i Gaerdydd yn dod yn rhan o gymunedau Cymraeg yn y brifddinas – ond mae am weld y Llywodraeth yn gweithredu o blaid cadw cymunedau Cymraeg yn fyw.

“Mae’r ffyniant yng Nghaerdydd i’w groesawu. Ond os ydan ni’n galw’n hunain yn blaid y cymunedau, beth mae hynny’n ei olygu? Pwrpas y ddadl ydy ystyried – wrth feddwl yn strategol rhaid i ni bwyllo ac ystyried y darlun holistaidd, nid y gwasanaeth unigol.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 20 Ionawr