Fe fydd cyfres boblogaidd S4C, Pobol y Cwm yn rhoi sylw i roi organau yn y bennod Nadoligaidd o’r opera sebon eleni.

Bydd y bennod yn rhoi sylw i hanes Mark Jones, sy’n clywed bod angen iddo dderbyn ail aren yn rhodd neu fod ar ddialysis am weddill ei oes.

Fe gafodd aren gan ei chwaer Stacey yn y gorffennol ac erbyn hyn, mae disgwyl iddo dderbyn ail aren gan ei hanner chwaer newydd, Non (Gwawr Loader).

Mae’r Athro Roy J Thomas o Aren Cymru wedi croesawu’r sylw i’r pwnc, gan ddweud bod “y stori hon yn arbennig o bwysig ar gyfer codi ymwybyddiaeth yn ein 50fed mlynedd o weithio gyda chleifion”.

“Mae byw gyda chlefyd ar yr arennau yn her enfawr i’r rheiny sy’n dioddef pan yr unig driniaeth sydd ar gael ar y diwedd yw dialysis neu drawsblaniad.

“Mae Aren Cymru ar hyn o bryd yn gweithio gyda’r rhai sy’n cael eu heffeithio ac yn edrych yn arbennig ar yr effaith ar iechyd meddwl rhywun sy’n byw gyda chlefyd ar yr arennau.”

‘Siglo teulu’r Jonesiaid i’r bôn’

Mae Arwyn Jones, sy’n chwarae’r cymeriad Mark, wedi cyfaddef y bydd y stori’n “siglo teulu’r Jonesiaid i’r bôn”.

Ac mae cynhyrchydd y gyfres, Llyr Morus wedi cyfaddef ei fod yn nerfus ar drothwy’r bennod.

 

 

“Mae penodau Dydd Nadolig wastad yn bleser i’w cynhyrchu, ond mae llawer yn y fantol hefyd. Mae cymaint o benodau Nadolig cofiadwy o Pobol y Cwm wedi bod dros y blynyddoedd, mae yna ddisgwyliad o hyd.

“Eleni, mae nifer o straeon cryf yn codi i’r wyneb o amgylch y Nadolig, ac maen nhw’n barod i ffrwydro. Alla’i ddim datgelu llawer heb ddifetha’r hwyl – ond gallaf ddweud y bydd un cymeriad yn ymladd am ei fywyd erbyn diwedd y bennod.

“Daw nifer o densiynau eraill rhwng cymeriadau i ben llanw; bydd golygfeydd anarferol ar y Stryd Fawr ac mae’n sicr y bydd drama yn y Deri Arms.”