Fe fydd ymddangosiadau olaf Iola Gregory ar yr opera sebon, Rownd a Rownd, i’w gweld ar S4C nos yfory a nos Fawrth nesaf (Tachwedd 23 a 28).

Bu farw’r actores, a fu’n portreadu’r cymeriad ‘Nain’ ers blynyddoedd, ddoe yn 71 oed.

Fe ymunodd Iola Gregory â chast Rownd a Rownd gyntaf ym mhennod 16 o gyfres 5 ar ddiwedd y 1990au, fel y cymeriad ‘Madam Serena’ yn wreiddiol ac yna fel mam y cymeriad Michelle (Manon Elis); nain y cymeriad Dani (Ffion Medi), ac yn fam-yng-nghyfraith i Meical (Emyr Gibson), y glanhawr ffenestri.

Mae wedi bod ar y gyfres fel cymeriad achlysurol ers deunaw mlynedd, ac fe gafodd y golygfeydd olaf eu ffilmio ym Mhorthaethwy yn gynharach eleni.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r actores a fu’n allweddol yn natblygiad y theatr broffesiynol Gymraeg.