Mae’r actor Rodney Bewes – un hanner o The Likely Lads – wedi marw yn 79 oed.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am chwarae rhan y cymeriad Bob Ferris yn y gyfres gomedi ochr yn ochr â James Bolam.

Er bod gan y ddau berthynas lwyddiannus ar y sgrîn, roedd yr actorion wedi ffraeo a phrin eu bod nhw wedi siarad am ddegawdau.

Cafodd Rodney Bewes ei eni yn Swydd Efrog ac roedd yn dioddef o asthma yn blentyn.

The Likely Lads

Serch hynny, fe aeth i Lundain i astudio yn RADA a chael rhan mewn sawl ffilm cyn ennill ei le yn The Likely Lads.

Cafodd 20 pennod eu darlledu rhwng 1964 a 1966, ac fe ddychwelon nhw i’r sgrîn yn 1973 mewn cyfres newydd o’r enw Whatever Happened To The Likely Lads, gan ennill gwobr Rhaglen Gomedi Orau’r Flwyddyn.

Fe wnaethon nhw serennu yn y ffilm The Likely Lads yn 1976, y tro olaf i Rodney Bewes a James Bolam gydweithio.

Yn 2010, roedd Rodney Bewes wedi atgyfodi’r ffrae ar ôl dweud bod James Bolam wedi gwrthod rhoi caniatâd ar gyfer ailddarlledu’r gyfres.

Parhaodd gyrfa Rodney Bewes ar y llwyfan yn bennaf.

Bu farw ei wraig Daphne yn 2015, ac mae’n gadael pedwar o blant a dau o wyrion.