Achub dafad fydd un o’r prif ddigwyddiadau mewn rhaglen deledu gyda’r digrifwr Rob Brydon heno.

Fe fydd y rhaglen yn dangos y Cymro yn crwydro glannau gogledd Cymru gyda’r anturiaethwr Bear Grylls ac yn dod ar draws dafad yn sownd mewn twll.

Mae’n ymddangos bod y digwyddiad yn brofiad mawr i’r digrifwr sy’n dod yn wreiddiol o Bort Talbot.

‘Cicio a brathu’

Ar y rhaglen Bear’s Mission with Rod Brydon, mae’n dweud bod y ddafad yn beryglus.

“Roedd hwnna’n brofiad. Mae e (sic) yn gryf, mae’n gallu brathu a chicio. Mae Bear yn fy sicrhau y byddai’n sownd yma; dydyn nhw ddim yn dod mas ar eu pen eu hunain, felly r’yn ni wedi gwneud ffafr iddo.”

Hyd y gŵyr Golwg360, doedd gan y ddafad ddim sylw i’w wneud.

Trafod ei yrfa

Yn ogystal â’r ddafad, fe fydd seren Gavin a Stacey hefyd yn trafod ei yrfa a sut y daeth llwyddiant i’w ran yn gymharol hwyr.

Mae’r rhaglen yn cael ei dangos ar ITV heno.