Fe fydd Russell Grant yn gwneud ymddangosiad ar opera sebon Pobol y Cwm cyn bo hir – a dim ond Cymraeg fydd yr astrolegwr yn ei siarad.

 

Fe fydd y dyn dweud ffortiwn, a gafodd enwogrwydd o’r newydd pan gymerodd ran yn nawfed cyfres Strictly Come Dancing yn 2011, yn dod â mymryn o hud y byd adloniant i rifyn dramatig iawn o Pobol y Cwm fydd i’w gweld nos Wener, Tachwedd 10 ar S4C.

 

Mae Russell Grant yn byw ym Maentwrog ac yn dweud ei fod yn falch iawn o’i wreiddiau Cymreig, yn chwarae rhan gwestai arbennig sydd wedi dod i feirniadu cystadleuaeth ddawnsio elusennol yn y pentref. 

Syniad y cymeriad Eileen ydi’r gystadleuaeth, ac mae hi a’i gŵr Jim yn cynnal y noson i godi arian ar gyfer BBC Plant mewn Angen, a hefyd er cof am y cymeriad ifanc Courtney – oedd wrth ei bodd hefo Strictly Come Dancing – a fu farw flwyddyn yn ôl.

 

Ond, yng ngwir ysbryd yr opera sebon, nid yw’r digwyddiad yn mynd yn union fel mae’r ddau wedi gobeithio, a chyn diwedd y noson mae pethau’n mynd yn flêr. Fe fydd effaith hir-dymor a dramatig ar fywydau rhai o’r pentrefwyr dros yr wythnosau a’r misoedd i ddod.

 

“Roeddwn wrth fy modd hefo’r cyfan, ac roedd pawb mor hyfryd,” meddai Russell Grant. “Doedd gen i ddim cymaint o linellau â hynny, ond oherwydd fy mod wedi gwneud cwrs Wlpan am ddwy flynedd yn Gellilydan, dw i wastad wedi bod yn hollol iawn efo’r ynganu.

 

“Rydw i bellach wedi byw yng Nghymru yn hirach nag ydw i wedi byw yn unrhyw le arall. Symudais i Gaerdydd ym 1969 pan oeddwn mewn pantomeim yn y Theatr Newydd yno gydag Ivor Emmanuel. Yna symudais i’r Barri, lle arhosais am gyfnod, cyn symud i’r Fenni, ac yna fe es i i’r gogledd i fyw ym 1999. Ac rydw i wedi byw yn Eryri byth ers hynny.”