Mae BAFTA yng Nghymru wedi cyhoeddi mai’r actor Cymreig, Matthew Rhys, sydd wedi ennill Tlws Siân Phillips eleni.

Mae Tlws Siân Phillips yn cael ei gyflwyno i Gymro neu Gymraes sydd wedi gwneud cyfraniad arwyddocaol mewn unai ffilm nodwedd ryngwladol neu gyfres deledu rwydweithiol.

“Mae Matthew wedi cyflawni’r ddau yn ddiweddar gyda’i rôl adnabyddus yn ‘Brothers and Sisters’ –  ac fel Dylan Thomas yn ‘The Edge of Love’,” meddai Lisa Nesbitt, Cyfarwyddwraig BAFTA yng Nghymru.

“Rydym wedi gwirioni ar y cyfle i’w anrhydeddu fel hyn.”

Cyflwynir y wobr yn 20fed Seremoni Wobrwyo’r Academi Brydeinig yng Nghymru a chynhelir yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd ar Ddydd Sul 29ain o Fai 2011.

Mae Matthew Rhys, sy’n wreiddiol o Gaerdydd ond sydd bellach yn byw ymysg sêr Hollywood,  yn fwyaf enwog ei rôl yn y Gyfres Americanaidd boblogaidd, Brothers and Sisters.

“Mae derbyn Tlws Siân Phillips gan BAFTA yng Nghymru yn golygu cymaint i mi,” meddai Matthew.

“Yn ddigon eironig, Siân chwaraeodd rôl fy mam yn fy swydd actio cyntaf, felly mae’r anrhydedd hyn yn golygu cymaint mwy gan mai ei gwobr hi ydyw…. Mae derbyn cydnabyddiaeth y rheini o gartref yn wir yn arbennig iawn.”

Bydd y wobr yn cael ei gyflwyno yn ystod y seremoni ble fydd enillwyr y 26 categori crefft, perfformiad, a rhaglennu yn cael eu gwobrwyo.

Bydd y seremoni yn cael ei gyflwyno gan Sian Williams a Jason Mohammad a bydd y tenor Cymreig poblogaidd, Wynne Evans, yn perfformio.