Vera Duckworth
Bu farw’r actores, Liz Dawn, a ddaeth yn enwog trwy ei phortread o’r cymeriad, Vera Duckworth yn opera sebon Coronation Street. Roedd hi’n 77 oed.

Yn ôl datganiad gan y teulu fore Mawrth (Medi 26): “Rydyn ni’n torri’n calonnau fod gwraig, mam, chwaer, nain a hen-nain, wedi marw, ond bu farw yn dawel neithiwr yn ei chartref, a’i theulu o’i hamgylch.”

Fe fu Liz Dawn yn chwarae rhan y wniadwraig dillad isaf, Vera Duckworth, yn yr opera sebon am 34 o flynyddoedd.

Roedd wedi bod yn ymladd emphysema ers 2004.