Y ffilm Afiach sydd wedi ennill y wobr am y Ffilm Fer Orau yn y Gymraeg yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru yn Abertawe.

Mae’r ffilm ddeng munud o hyd, sydd wedi’i chynhyrchu gan Grant Vidgen o Gaerdydd, yn adrodd hanes cwpl lesbiaidd sydd ar blatfform gorsaf rheilffordd yn myfyrio ar ystyr bywyd a marwolaeth.

Bethan Marlow yw awdures y ffilm, a Carys Lewis wedi ei chyfarwyddo.

Mae’r cast yn cynnwys Catrin Morgan, Natalie Paisey, Gillian Elisa, I-Kay Agu a Kia Shah.

Cafodd ei chreu fel rhan o bartneriaeth ‘Straeon Iris’ rhwng S4C, Gwobr Iris, BFI NET.WORK a Ffilm Cymru.

Carys Lewis

Actores, awdur, cyfarwyddwr a chynhyrchydd yw Carys Lewis, a raddiodd o Ysgol Theatr George Brown yn Toronto.

Hi yw sylfaenydd FEM Script Lab, prosiect i ferched sy’n dymuno bod yn awduron sgript yng Nghanada.

Mae hi hefyd wedi cyfrannu at nifer o brosiectau yng ngwledydd Prydain, gan gynnwys prosiect i wneuthurwyr ffilm newydd wedi’i drefnu gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig.

Ar hyn o bryd, mae hi’n gweithio ar sgript drama nodwedd gyda chefnogaeth BFI Network Cymru.