Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Fe fydd gŵyl ffilmiau newydd sbon yn Abertawe y penwythnos hwn yn cynnig “platfform i bawb”, yn ôl y sylfaenydd a’r cynhyrchydd ffilm, Euros Jones-Evans.

Mae prif weithredwr cwmni ffilm Tanabi wedi cydweithio â’r actores leol Samira Mohamed Ali a threfnydd Gŵyl Ffilmiau Bae Caerfyrddin, Kelvin Guy ar y prosiect newydd hwn.

Bydd Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Cymru yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Dylan Thomas o Fedi 8-10, gyda noson wobrwyo nos Wener, a’r diddanwr a chyflwynydd radio lleol Kevin Johns yn cyflwyno.

Daw’r ŵyl newydd wrth i Abertawe baratoi cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2021, ac mae disgwyl i bobol o’r byd ffilmiau deithio o 25 o wledydd, gan gynnwys yr Unol Daleithiau ac Awstralia, ar gyfer y penwythnos.

Dangos dros 40 o ffilmiau

Dywedodd Euros Jones-Evans wrth golwg360: “Mae prosiectau wedi’u cyflwyno ar gyfer 18 categori gwahanol, a’r rheiny wedi dod o 25 gwlad wahanol. Byddwn ni’n sgrinio 40 o brosiectau yn ystod y deuddydd, o ffilmiau hir i ffilmiau byrion, dogfennau, cerddoriaeth, animeiddio a’r holl ffordd i’r ochr arbrofol.

“Mae’n brosiect di-elw a’r pwrpas ydi adeiladu platfform fel ei fod yn tyfu dros y blynyddoedd gyda phartneriaid presennol.

“Mae Cyngor Abertawe efo ni’n brif bartner, ac mae gallu tyfu fel rhan o’r cais ar gyfer Dinas Diwylliant 2021 yn ddatblygiad cyffrous iawn.

“Mae lot o wyliau ffilm da allan yna, ond mae marchnad i hyn yn Abertawe. Mae Gŵyl Bae Caerfyrddin yn llwyddiannus ers rhai blynyddoedd. Mae gyda ni bobol dda fel rhan o’r tîm gyda Kelvin Guy a Samira Mohamed Ali.

“Gyda’r buddsoddiad yn y ddinas dros y pum mlynedd nesaf, rydyn ni’n gobeithio bod yn rhan bwysig o’r dathliad ar gyfer cais Dinas Diwylliant.

“Diolch yn fawr iawn i’r noddwyr a’r partneriaid, Gravells, C4EE, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r Welsh Factor.”

Croesawu pobol o bedwar ban y byd

Bydd nifer o’r ffilmiau sydd wedi cael eu cyflwyno ar gyfer yr ŵyl yn cael eu dangos dros y penwythnos.

Ychwanegodd Euros Jones-Evans: “Rydan ni’n edrych ymlaen i groesawu pobol o mor bell i ffwrdd ag Awstralia ac America, ac yn diolch i bawb am eu cefnogaeth i ddigwyddiad newydd, cyffrous yn Abertawe.

“Wrth i’r ŵyl dyfu, ’dan ni’n gobeithio datblygu’n ddigidol fel bod modd i ni ddarlledu’r ŵyl dros y we ar draws y byd yn ystod yr ail a’r drydedd flwyddyn.”