Mae’r deuddeg enw fydd yn cymryd rhan yn y gyfres deledu boblogaidd,
The Great British Bake Off, wedi’u cyhoeddi.

Bydd y cystadleuwyr yn rhan o’r rhaglen ar ei newydd wedd wrth iddi symud o’r BBC i Channel 4.

Er hyn, nid oes yr un cystadleuydd yn dod o Gymru eleni – ac mae’r cystadleuwyr yn cynnwys: Kate a Flo o Lannau Merswy, Peter a James o Essex, Julia o Orllewin Sussex, Chris o Fryste, Steven a Stacey o Hertfordshire, Yan a Liam o Lundain, Sophie o Surrey, Tom o Gaeredin.

Ar ei newydd wedd…

Llwyddodd Channel 4 i brynu’r gyfres y llynedd am £25m, a hynny wedi i’r BBC gynnig £15m amdani.

Wedi hynny, cyhoeddodd y cyflwynwyr Mel Giedroyc a Sue Perkins ynghyd â Mary Berry na fydden nhw’n symud gyda’r gyfres.

Er hyn, mae Paul Hollywood yn parhau i feirniadu ar y gyfres ynghyd â’r beirniad newydd, Prue Leith, a’r cyflwynwyr newydd – Sandi Toksvig a Noel Fielding.

Bydd y bennod gyntaf yn cael ei darlledu ddydd Mawrth nesaf (Awst 29) ar Channel 4.