Robert Hardy yn y canol (Llun cyhoeddusrwydd y BBC ar gyfer All Creatures Great and Small)
Mae’r actor a oedd yn enwog am chwarae rhan y Gweinidog Hud, Cornelius Fudge, mewn ffilmiau Harry Potter, wedi marw yn 91 oed.

Roedd Robert Hardy, a oedd yn enedigol o Cheltenham, hefyd yn enwog am bortreadu’r cymeriad Siegfried Farnon yn y gyfres All Creatures Great and Small ar y BBC a bu’n wyneb cyfarwydd ym myd y theatr, teledu a ffilm am dros 70 mlynedd.

Roedd yn ffrind i’r actor Cymraeg Richard Burton ar ôl iddyn nhw gwrdd ym Mhrifysgol Rhydychen.

“Bywyd rhagorol”

Mewn datganiad ar ran y teulu, mae ei blant wedi talu teyrnged i ŵr a oedd yn ieithydd, yn artist, yn garwr cerddoriaeth a llenyddiaeth, yn ogystal â hanesydd o fri.

Roedd yn arbenigwr ar y bwa hir ac a fu’n rhan o’r tîm a wnaeth godi’r llong rhyfel, The Mary Rose, yn 1982 wedi 473 o flynyddoedd o fod dan ddŵr.

“Caredig, pefriol ac wastad yn urddasol; mae’n cael ei ddathlu gan bawb a oedd yn ei adnabod ac yn ei garu, a phawb a wnaeth fwynhau ei waith,” medden nhw.