Hywel Bennett o glawr fideo Shelley
Mae cyhoeddiad wedi ei wneud bod yr actor Hywel Bennett wedi marw yn 73 oed.

Ac yntau wedi ei eni yn Garnant yn Nyffryn Aman, roedd yn gallu rhywfaint o Gymraeg ond wedi ei fagu yn Llundain a gweithio’n benna’ trwy’r Saesneg.

Fe ddaeth yn enwog wrth actio mewn ffilmiau mentrus fel The Virgin Soldiers a Percy, lle’r oedd golygfeydd rhywiol amlwg ac wedyn mewn tair ffilm gyda Hayley Mills.

Shelley

Ar ôl hynny, fe arbenigodd yn benna’ ar rannau ysgafn gan gynnwys cymryd y brif ran mewn cyfres gomedi o’r enw Shelley.

Fe gafodd drafferthion gydag alcohol ond, ar ei orau, roedd yn cael  ei ystyried yn un o actorion gorau ei genhedlaeth.

Fe fu farw ddiwedd mis Gorffennaf, ond dim ond ddoe y daeth y cyhoeddiad ffurfiol.