Logo Channel 4
Mae corff sydd yn cynrychioli cwmnïau cynhyrchu teledu annibynnol yng Nghymru am weld y darlledwr Channel 4 yn sefydlu presenoldeb parhaol yma.

Daw galw Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) mewn dogfen sydd wedi ei chyflwyno i ymgynghoriad Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar berthynas Channel 4 â rhanbarthau Prydain.

Nid yw’r corff am weld “adleoliad llwyr” gan Channel 4 ond maen nhw’n argymell y dylai bod gan y darlledwr “bresenoldeb  parhaol ar ryw ffurf” yng Nghymru fel yr hyn sydd ganddyn nhw yn yr Alban.

Yn ôl TAC gallai’r presenoldeb yma fodoli ar ffurf “staff comisiynu” neu “gydlynydd o’r sector annibynnol” fyddai’n sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr o Gymru.

Y “ffactor hanfodol”

Er hynny mae TAC yn dadlau mai’r “ffactor hanfodol” wrth sicrhau bod Channel 4 yn ymgysylltu â Chymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yw lefel ei wariant yno.

Mae’r corff yn dadlau bod angen i Channel 4 gynyddu ei darged gwariant yn y cenhedloedd datganoledig o 9% erbyn 2020 i 19% erbyn 2030.

Hefyd mae TAC am weld Channel 4 yn cyhoeddi amserlen flynyddol o gyfarfodydd comisiynu rheolaidd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn cynnwys de a gogledd Cymru.

“Cynnig cyfle teg”

“Mae ymateb cychwynnol Channel 4, a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos cyn lleied mae’r sianel yn ei wneud i ymgysylltu â’r sector yng Nghymru,” meddai Cadeirydd TAC, Iestyn Garlick. “Dau ddigwyddiad yn unig a gynhaliwyd ganddi dros flwyddyn yn 2016, mewn nifer gyfyngedig o genres, ac yng Nghaerdydd y cynhaliwyd y ddau.”

“Un peth sydd wedi dod yn eglur yn ystod y broses hon yw nad yw cynnal y sefyllfa fel y mae hi’n ddichonadwy … Y ffordd allweddol o sicrhau bod Channel 4 yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig  mewn modd mwy effeithlon yw cynnig cyfle teg i gwmnïau cynhyrchu annibynnol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig gyflwyno’u syniadau a derbyn comisiynau gan y sianel.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Channel 4 am ymateb.