Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd 40 o swyddi newydd yn cael eu creu wrth iddyn nhw fuddsoddi mewn rhaglenni adloniant a newyddiaduraeth.

O’r rhain, bydd 25 o swyddi newyddiadurol yn cael eu creu gyda “thîm Brexit newydd” i weithio rhwng Caerdydd, Llundain a Brwsel.

Maen nhw hefyd wedi cyhoeddi y bydd “tair drama deledu fawr” wedi’u seilio yng Nghymru yn cael eu darlledu’r flwyddyn nesaf.

Mae’n fuddsoddiad gwerth £10.5 miliwn, ac yn cynnwys £8.5 miliwn o’r buddsoddiad a gyhoeddwyd ym mis Chwefror eleni.

Rhaglenni newydd

Mae rhai o ymrwymiadau eraill y gorfforaeth yn cynnwys:

  • Creu cyfleoedd hyfforddi i fwy na 250 o bobol dros y ddwy flynedd nesaf.
  • Cyflwyno bwletin newyddion byr am 8pm ar BBC One Wales i roi sylw i straeon Cymreig, Prydeinig a rhyngwladol am y tro cyntaf.
  • Ymestyn bwletin hwyr Wales Today.

Mae’r buddsoddiad yn golygu y bydd 2-3 awr o raglenni ychwanegol ar gael bob wythnos ar BBC One Wales, BBC Two Wales a sianel ar alw BBC Cymru ar BBC iPlayer.

O ganlyniad mae disgwyl i’r buddsoddiad “gefnogi’r hyn sy’n cyfateb i dros 100 swydd lawn-amser ar draws sector annibynnol Cymru.”

 

‘Uchelgeisiol’

“Mae ein cynulleidfaoedd yn newid yn gyflym. A ninnau hefyd. Fe fydd y pecyn hwn o newidiadau golygyddol yn sicrhau fod BBC Cymru yn ddarlledwr hyderus ac uchelgeisiol i’r genedl gyfan, yr hen a’r ifanc,” meddai Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhodri Talfan Davies.

“Fe fyddwn yn cryfhau ein gwasanaethau traddodiadol, gan gynyddu effaith ein newyddiaduraeth i adlewyrchu realaeth datganoli, cyflwyno gwasanaeth teledu uchelgeisiol ac amrywiol a helpu i ailddyfeisio’r BBC ar gyfer cenhedlaeth newydd,” ychwanegodd.