Mae BBC Cymru wedi penodi Cymro Cymraeg yn bennaeth ar yr adran newyddion newydd yn dilyn pryderon nad oedd y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg yn hanfodol ynghylch y swydd.
Garmon Rhys

Y dirprwy bennaeth newyddion presennol, Garmon Rhys, fydd y pennaeth newydd. Mae’n cymryd lle Mark O’Callaghan, nad oedd yn medru’r Gymraeg.

Roedd y gallu i siarad Cymraeg yn “ddymunol” yn ôl hysbyseb y swydd.

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae dwyieithrwydd yn hanfodol ar gyfer y rôl, sy’n cynnwys arwain y gwaith o ddatblygu gwasanaethau newyddion BBC Cymru – ar-lein, yn symudol, ac ar y radio a theledu – gan gynnwys rhaglenni ar gyfer S4C a Radio Cymru.

Newyddiadurwr “uchel ei barch”

Bu Garmon Rhys yn ohebydd i gylchgrawn Golwg am gyfnod cyn troi at y BBC yn 2000, cyn gweithio yn gynhyrchydd teledu a radio ar draws yr arlwy gwleidyddol a materion cyfoes.

Mae wedi bod yn ddirprwy bennaeth newyddion ers 2012, gyda’i gyfrifoldebau yn cynnwys goruchwylio newyddiaduraeth wleidyddol, arbenigol a Chymraeg.

“Mae Garmon yn newyddiadurwr uchel ei barch ac yn arweinydd creadigol sydd wedi chwarae rhan allweddol yn y gwaith o ddatblygu ein harlwy newyddion dros nifer o flynyddoedd,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Wrth ystyried cyflymder y newid yn y farchnad newyddion a’r newid digynsail yn yr agenda gwleidyddol a chymdeithasol, dwi’n credu fod Garmon mewn sefyllfa ddelfrydol i lywio cyfeiriad ein newyddiaduraeth ar gyfer y dyfodol.”

Ceisio cyrraedd pawb

Yn ôl Garmon Rhys, un o’i flaenoriaethau fydd i “gyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed” ledled Cymru.

“Ar adeg o newid enfawr, rwy’n edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’n tîm o newyddiadurwyr arbennig ar draws Cymru i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy’n bosibl i gyrraedd cynulleidfaoedd o bob oed ym mhob rhan o’n cenedl.”