Judy Garland yn 'The Wizard of Oz' (Llun: PA)
Mae gweddillion yr actores Judy Garland wedi cael eu symud o Efrog Newydd i Hollywood ar y diwrnod y byddai hi wedi bod yn dathlu ei phen-blwydd yn 95 oed.

Mae hi bellach yn gorffwys ym mynwent Hollywood Forever, lle cafodd gwasanaeth coffa ei gynnal gan ei theulu.

Cafodd ei gweddillion eu claddu ym Mhafiliwn Judy Garland, lle mae disgwyl i weddill ei theulu gael eu claddu yn y dyfodol.

Roedd ei phlant, Liza Minnelli, Lorna Luft a Joey Luft yn awyddus i symud ei gweddillion o fynwent Ferncliff yn Efrog Newydd.

Bu farw Judy Garland yn 47 oed yn Llundain yn 1969.

Ymhlith yr enwogion eraill sydd wedi’u claddu yn y fynwent yn Hollywood mae Jayne Mansfield, Douglas Fairbanks, Rudolph Valentino a Chris Cornell, fu farw fis diwethaf.