Bryn Williams (Llun: S4C)
Mae’r cogydd disglair Bryn Williams wedi hen arfer â blasu llwyddiant – ond y tro hwn, ffilm hyrwyddo fer ar gyfer ei gyfres ar S4C, sydd wedi ennill gwobr deledu bwysig.

Trelar hyrwyddo am bumed gyfres Cegin Bryn sydd wedi ennill gwobr arian i’r sianel deledu S4C mewn cystadleuaeth ryngwladol.

Y Swyddog Cyfathrebu Huw Derfel cynhyrchodd y ffilm hyrwyddo a greodd argraff fawr ar feirniad y Gwobrau EBU Eurovision Connect a gynhaliwyd yn ddiweddar ym mhrifddinas Slofenia, Ljubljana.

Cafodd y ffilm hyrwyddo ei chynhyrchu y llynedd ar gyfer y gyfres Cegin Bryn: Tir a Môr, ac fe ddaeth yn ail yn y Categori Syniad Cysyniadol Gorau ar Gyllideb Isel.

Mae’r promo yn cynnwys y gân ‘Y Pren ar y Bryn’ yn cael ei pherfformio gan Dafydd Iwan, gan ddefnyddio delweddau penodol o’r gyfres i gyd-fynd â geiriau’r gân.

“Mi gawson ni lawer o hwyl yn cynhyrchu’r promo ysgafn yma, ac roeddem yn gallu manteisio ar y ffaith bod y gair ‘Bryn’ yn ymddangos nifer o weithiau yn y gân,” meddai Huw Derfel. “Roedd ansawdd y rhaglen a’r golygfeydd trawiadol ynddi’n gwneud ein gwaith ni’n llawer yn haws.”