John Noakes a Shep y ci ar Blue Peter (Llun: BBC)
Bu farw John Noakes, cyn-gyflwynydd y rhaglen blant, Blue Peter, yn 83 oed.

Bu farw, yn ôl ei deulu, yn dawel yn ei gwsg fore Sul, Mai 28. Roedd wedi bod yn diodde’ o glefyd Alzheimer.

“Roedd wedi diodde’ o glefyd Alzheimer yn ystod y blynyddoedd diwethaf,” meddai datganiad gan y teulu. “A thra bydd ei wraig, ei deulu a’i nifer o ffrindiau yn gweld ei eisiau yn fawr, maen nhw’n ei chyfri’ hi’n fendith iddo gael ei ryddhau o grafangau ei waeledd.

“Gobeithio y bydd ei anturiaethau gyda Shep y ci, tra’r oedd yn gweithio ar Blue Peter, yn para ar gof a chadw. Dyna sut y byddai ei deulu’n hoffi iddo gael ei gofio.”