Syr Roger Moore yn 2014 (Llun: Daniel Leal-Olivas/ PA)
Mae cyn-seren y ffilmiau James Bond, Syr Roger Moore, wedi marw yn 89 oed yn Y Swistir.

Cyhoeddodd ei deulu ei fod wedi bod yn brwydro canser am gyfnod byr.

Cafodd ei eni yn Llundain cyn dod yn un o actorion mwyaf adnabyddus ei genhedlaeth gan ymddangos yn ffilmiau James Bond ac yn y gyfres deledu boblogaidd The Saint.

Ei ffilm Bond gyntaf oedd Live and Let Die yn 1973  ac aeth ymlaen i ymddangos mewn chwe ffilm Bond arall dros y 12 mlynedd ganlynol –  The Man with the Golden Gun, The Spy who Loved Me, Moonraker, For Your Eyes Only, Octopussy ac A View to a Kill – cyn rhoi’r gorau i fod yn James Bond yn 1985.

Roedd hefyd yn llysgennad ar ran UNICEF.

Fe fu’n briod a’r gantores o Bontyberem, Dorothy Squires rhwng 1953 a 1969.

Mae’n gadael gwraig, Kristina, a thri o blant.