Phil Cooper a Dan Thomas (Llun cyhoeddusrwydd)
Mae cyfresi stand-yp S4C yn allweddol wrth feithrin digrifwyr newydd a datblygu doniau yn y Gymraeg, yn ôl dau gomedïwr sydd ar ddechrau taith gyda’i gilydd.

Fe fu Dan Thomas a Phil Cooper yn siarad â golwg360 wrth iddyn nhw deithio gyda’i gilydd i berfformio’u sioeau unigol, fydd yn cael eu ffilmio yn Theatr Richard Burton yng Ngholeg Cerdd a Drama Caerdydd fis Gorffennaf. Mae disgwyl i’r rhaglen gael ei darlledu cyn diwedd y flwyddyn.

“Ers blwyddyn diwetha’, mae S4C wedi dechrau ffilmio specials mewn steil Americanaidd o awr o hyd. O’dd Tudur Owen wedi gwneud un, o’dd Elis James wedi gwneud un,” meddai Dan Thomas.

“A nawr achos y gyfres Gwerthu Allan, mae’r genhedlaeth nesa’ o stand-yps Cymraeg yn dechrau dod lan, a nawr mae siawns gyda ni i gael pobol fyddai byth wedi gwneud awr flwyddyn yn ôl, yn gwneud awr o sioe.”

Cwmni Zeitgeist o Gaerdydd sy’n cynhyrchu llawer o’r deunydd stand-yp ar gyfer S4C, ac un o’r digrifwyr ifainc sydd wedi cael hwb o gael sylw ar y sianel yw Phil Cooper o’r Rhondda.

“Fi wedi bod yn gwneud stand-yp ers chwe blynedd yng Nghymru, ac mae diddordeb gyda fi i wneud e yn Gymraeg,” meddai. “Ond mae’n anodd ffeindio gigs. Mae’n teimlo fel bo ni’n adeiladu sîn newydd ein hunain.”

Sioeau Dan a Phil

Sioe am fagwraeth a “phlentyndod tamaid bach yn od” sydd gan Dan Thomas, sy’n wreiddiol o Abertawe, ac yn fab i aelodau o’r FWA.

Meddai: “O’n i wedi tyfu lan yn clywed straeon am beth o’n nhw’n gwneud pan o’n nhw’n ifanc, ac mae hwnna’n mynd i ffrîco plentyn ma’s  – a nath e i fi! A nawr fi’n trial manteisio ar y ffaith bo fi wedi cael traumatic childhood! Felly mae’r sioe i gyd yn dod o brofiadau personol, mwy na fi wedi gwneud o’r blaen.

“Mae’n sioe o ddau hanner – fi’n tyfu lan gyda’n rhieni, a wedyn y profiad fi’n cael nawr o fod yn rhiant i blant bach.”

Magwraeth yn y Rhondda ac yn y Gymru gyfoes sydd dan sylw yn sioe Phil Cooper, sy’n hanu o bentref Porth. Ond bydolwg sydd ganddo fe yn ei sioe, sydd wedi cael ei ddylanwadu gan yr hinsawdd wleidyddol sydd ohoni.

“Mae am y ffordd o’n i’n gweld Cymru wrth dyfu lan,” meddai, “a ffeindio hunaniaeth yng Nghymru pan mae popeth yn newid yn nhermau gwleidyddol a sut oedd pethau i fi yn blentyn a sut mae e nawr fel oedolyn.

“Fi’n trio zoomio mewn ar y pethau quirky, pethau doniol a syniadau’r teulu, ysbryd y gymuned ti’n tyfu lan gyda, ac wedyn rwy’n matsio hwnna yn erbyn lle mae’r byd yn mynd ar y foment. A wedyn, jyst sôn am y pethau fi’n ofni hefyd.”

Cenhedlaeth newydd

Un o’r prif heriau i Phil Cooper, sy’n gigio’n bennaf yn Saesneg, yw penderfynu pa ddeunydd fydd yn gweithio cystal – neu’n well, hyd yn oed – yn y Gymraeg.

“Un o jôcs fi, mae’n cael laff yn y Gymraeg ond byth wedi yn Saesneg. Oherwydd mae’r gair ‘duck yn Saesneg’ jyst ddim yn ddoniol. Ond pan fi’n dweud ‘hwyaden’, mae pobol jyst yn ffeindio fe’n ddoniol.

“Yn Saesneg, mae pethau’n swnio’n fwy emosiynol. Yn Gymraeg, fi’n cadw fe’n fwy doniol achos mae’n teimlo’n wahanol. Ac mae mwy o ‘jôcs’ yn y set Cymraeg hefyd.

“Mae’n gwneud fi’n hapus i ddefnyddio’r iaith i wneud i bobol chwerthin. Yn Saesneg, fi weithiau’n anghofio ac yn gwneud y punchline yn Gymraeg!”

Y daith

Rhwng nawr a Gorffennaf 11, bydd Dan Thomas  a Phil Cooper yn perfformio’u sioeau ddegau o weithiau mewn nosweithiau comedi ar hyd a lled Cymru, ac maen nhw eisoes wedi ei pherfformio yng Nghlwb Cymry Llundain.

Mai 18 – King’s Arms, Y Fenni

Mai 25 – Clwb Rygbi Crymych

Mai 26 – Y Llew Du, Aberystwyth

Mehefin 10 – Canolfan Pontio, Bangor

Mehefin 17 – Theatr Mwldan, Aberteifi

Mehefin 23 – Theatr Gartholwg, Pontypridd

Mehefin 24 – Clwb Rygbi Llambed

Mehefin 29 – Theatr Ffwrnes, Llanelli

Gorffennaf 8 – Neuadd Dwyfor, Pwllheli

Gorffennaf 11 – Theatr Richard Burton, Coleg Cerdd a Drama Caerdydd