Megan Williams (Llun: S4C)
Magwraeth ‘rhwng môr a mynydd’ gafodd cyflwynydd tywydd newydd S4C, Megan Williams yn Eifionydd.

O bentref Chwilog yn Eifionydd y daw Megan yn wreiddiol. Cafodd ei magu wrth droed mynyddoedd Eryri a Meirionydd ac ar lannau rhai o draethau hyfrytaf Bae Ceredigion, sylweddolodd yn oedran ifanc effaith y tywydd ar fywydau’r bobl o’i chwmpas.

Roedd Megan yn rhan o dîm cynhyrchu’r Tywydd am saith mlynedd cyn dechrau ei rôl newydd ar y sgrin y mis yma. Bydd hi’n ymuno â’r cyflwynwyr profiadol Chris Jones a Steffan Griffiths i gyflwyno’r bwletinau ar S4C.

Dywedodd Megan wrth gylchgrawn Golwg: “Mae’r tywydd wastad wedi bod yn rhan o’m bywyd. Ro’dd gan fy nhad gwch bysgota ac ro’n i’n mynydda dipyn pan o’n i adra felly roedd angen i ni wybod sut byddai’r tywydd yn datblygu.”

Effaith y tywydd

Mae Megan yn deall yn iawn sut mae’r tywydd, a darogan manwl a chywir, yn gallu effeithio ar fywydau a bywoliaeth pobl o ddydd i ddydd gan mai amaethu mae teulu ei gŵr.

“Mae teulu’r gŵr wedi agor fy llygaid o ran sut mae pobl wir yn gweithio efo’r tywydd. Maen nhw’n ddibynnol ar ryw fath arbennig o dywydd er mwyn cyrraedd eu nod.”

Er mai’r nod ar gyfer pob gwasanaeth tywydd yw darogan yn fanwl gywir pob tro, mae Megan a thîm Tywydd S4C yn cydnabod nad yw hynny’n bosib o hyd – ac mae pobl yn barod i leisio barn pan fydd hynny’n digwydd.

“Mae Twitter yn lle grêt i gael gwybod os ydan ni wedi’i chael hi’n iawn, yn enwedig yn y Steddfod, y Sioe a’r Ffair Aeaf! Mae’n rhaid i ni ei gael o’n gywir achos mae pobl yn cymryd ein gair ni,” cyfaddefa.

Megan Williams sy’n ateb cwestiynau 20:1 yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.