Jean Hywel Williams (musictuition.org)
Fe fydd côr o Gymru’n cystadlu ar raglen Britain’s Got Talent ar ITV heno.

Cafodd y côr merched, Angelicus Celtis ei ffurfio gan John Hywel Williams ychydig dros flwyddyn yn ôl.

Fe gollodd ei wraig, Jean mewn gwrthdrawiad yn fuan ar ôl sefydlu’r côr.

Cafodd hi ei lladd yn y gwrthdrawiad wrth i’r cwpl deithio adref o wasanaeth Diwrnod VE yn Eglwys Sant Elli yn Llanelli.

Wedi gyrfa ryngwladol fel pianydd, roedd Jean Hywel Williams yn parhau i fod yn weithgar iawn ym myd cerddoriaeth ac yn cynorthwyo i ddysgu Côr Merched a Chôr Bechgyn Hywel a Chymdeithas Corau Llanelli.