Shirley Ballas, beirniad newydd Strictly Come Dancing, (Llun: BBC/PA Wire)
Mae Strictly Come Dancing wedi cyhoeddi mai’r arbenigwraig ar ddawnsio Lladin, Shirley Ballas sydd wedi’i phenodi yn brif feirniad i olynu Len Goodman.

Mae Shirley Ballas, 56, wedi’i galw’n “frenhines dawnsio Lladin” ac wedi gweithio ar gyfres Dancing With The Stars yn yr Unol Daleithiau.

Cafodd y bencampwraig ei geni yn Wallasey, gan ddod yn hyfforddwraig ryngwladol ar ôl rhoi’r gorau i gystadlu yn 1996.

Fe fydd hi’n dechrau ei gwaith ar y 15fed gyfres  o Strictly Come Dancing ar y BBC yn ddiweddarach eleni, gan ymuno â’r beirniaid eraill Darcey Bussell, Craig Revel Horwood a Bruno Tonioli.

Dywedodd Shirley Ballas ei bod “wrth ei bodd” ac “wedi cyffroi” am ymuno â’r gyfres.

Fe benderfynodd Len Goodman gamu o’r rôl y llynedd ar ôl 12 mlynedd.