Mae cwmni ffilm o Abertawe’n “dangos bod Cymru’n gallu bod yn llwyddiannus”, yn ôl Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Bethan Jenkins.

Croesawodd yr Aelod Cynulliad dros Orllewin De Cymru y cwmni i Dŷ Hywel ym Mae Caerdydd neithiwr yn dilyn eu llwyddiant wrth sicrhau bod y ffilm By Any Name, yn seiliedig ar nofel yr awdur o Bontypridd, Katherine John, yn cyrraedd llwyfan Amazon Prime.

Mae’r awdures eisoes wedi cael cryn dipyn o lwyddiant ar Amazon drwy fod ymhlith y gwerthwyr gorau am ei nofel sy’n troi o amgylch prif gymeriad, sy’n cael ei ddarganfod yn rhedeg drwy Fannau Brycheiniog yn y gobaith o ddarganfod pwy yw e ei hun ar ôl pwl o amnesia.

Cafodd y ffilm ei chynhyrchu gan Euros Jones-Evans, prif weithredwr cwmni Tanabi a chyn-Gyfarwyddwr Masnach Telesgop, ac mae’n serennu Samira Mohamed Ali o Gastell-nedd, sydd eisoes yn torri ei chwys ei hun ym myd ffilmiau Bollywood yn India.

Cafodd y ffilm gyfan ei ffilmio yn Abertawe a Bannau Brycheiniog.

‘Cystadlu gyda’r cwmnïau mawr’

Yn dilyn y digwyddiad ym Mae Caerdydd nos Fawrth, dywedodd Bethan Jenkins wrth golwg360: “Mae’r holl gynhyrchiad yma wedi cael ei wneud yng Nghymru gan bobol o Gymru, a fi’n credu’i fod e’n bwysig bo ni’n dangos bod Cymru’n gallu bod yn llwyddiannus, bod cwmnïau bach o ardaloedd fel Abertawe’n gallu bod yn llwyddiannus wrth gyrraedd Amazon Prime ac yn y blaen, a bo nhw’n dangos bo nhw’n gallu cystadlu gyda’r cwmniau mawr.

“Mae’n bwysig bo ni’n annog pobol i aros yng Nghymru i weithio yn y sector ffilmiau, os dych chi’n sgriptio, os dych chi’n ffilmio, os dych chi’n actorion, ac wedyn maen nhw’n cael eu sbarduno o weld llwyddiant y ffilm yma i ymwneud â’r sector eu hunain ac i gymryd rhan yn y ffilm newydd, a bod pobol yn gallu gwylio hynny a’u bod nhw’n gallu gweld eu bywydau nhw ar y sgrîn.

“Yn aml iawn, dyn ni ddim yn gweld bywydau’r Cymry ar y sgrîn ac mae hyn yn beth positif iawn i gael yn yr ardal yma ac yng Nghymru hefyd.”

Prosiect llwyr Gymreig

“Mae’n hyfryd cael bod yn rhan o brosiect llwyr Gymreig sy’n mynd allan yn rhyngwladol ac sy’n rhoi Cymru ar y map,” meddai’r awdur, Katherine John.

“I awdur o Gymru, mae hyn yn gwireddu breuddwyd. Mae gan Amazon Prime fy nofelau eisoes ac felly, mae cael ychwanegu’r ffilm at y rheiny’n wych.

“Mae gyda ni dalent yma yng Nghymru sy’n gallu sefyll ochr yn ochr ag unrhyw un. Os ewch chi i Hollywood neu i Foroco lle maen nhw’n gwneud ffilmiau, fe welwch chi bobol o Gymru ar y set.

“Trueni nad yw’r bobol hynny o Gymru’n gallu cael gwaith yma yng Nghymru.”