Fe fydd S4C yn cael darlledu uchafbwyntiau o gemau’r Llewod yn Seland Newydd ar ôl iddyn nhw ddod i gytundeb â SKY Sports.

Bydd uchafbwyntiau o’r 10 gêm ar gael yn y Gymraeg, gan gynnwys y tair gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd.

Catrin Heledd fydd yn cyflwyno’r rhaglenni, tra bydd Gareth Rhys Owen a Wyn Gruffydd yn brif sylwebyddion.

Sunset and Vine Cymru ac SMS Media fydd yn cynhyrchu’r rhaglenni, gyda’r daith yn dechrau ar ddydd Sadwrn, Mehefin 3 gyda gêm rhwng y Llewod a XV yr Undeb Rhanbarthol.

Bydd y gemau prawf yn cael eu cynnal ar Fehefin 24 (Auckland), Gorffennaf 1 (Wellington) a Gorffennaf 8 (Auckland).

Mae S4C ar gael ar SKY, Freesat a Virgin Media, a gwasanaeth HD ar gael ar SKY a Freesat hefyd.

Dywedodd Comisiynydd Cynnwys Chwaraeon S4C, Sue Butler: “Mae Taith y Llewod Prydain ac Iwerddon i Seland Newydd yn rhywbeth sydd ond yn digwydd unwaith bob 12 mlynedd ac mae’n ddigwyddiad unigryw o fewn y byd chwaraeon.

“Rydym yn gobeithio bydd gwylwyr wrth eu boddau ein bod ni’n cynnig uchafbwyntiau rhad-ac-am-ddim o bob gêm ar S4C.”