Alex Jones Llun: BBC - Strictly Come Dancing
Mae’r gyflwynwraig o Rydaman, Alex Jones, wedi cyhoeddi y bydd hi’n cyflwyno cyfres ddogfen newydd sy’n ymchwilio i hanes teuluoedd.

Bydd y gyfres The Secrets in My Family yn cael ei darlledu yn hwyrach eleni ar W, UKTV; ac mae’r gyfres yn defnyddio profion DNA i helpu pobol ddarganfod mwy am eu teuluoedd.

Mae Alex Jones, 40 oed, newydd ddychwelyd i gyflwyno The One Show ar BBC One ar ôl ei chyfnod mamolaeth pan ddaeth yn fam am y tro cyntaf ym mis Ionawr.

Dywedodd y bydd hi’n dychwelyd i gyflwyno The One Show ddeuddydd yr wythnos i ddechrau a “gweld sut mae’n mynd.”