Ni fydd adolygiad Llywodraeth Prydain o sianel S4C yn cael ei chynnal tan ar ôl yr etholiad cyffredinol.

Yn dilyn ymholiad gan golwg360 dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig: “ni fydd hi’n bosib dechrau’r adolygiad yn ystod cyfnod yr etholiad cyffredinol.”

Mae Llywodraeth Prydain eisoes wedi dweud ei bod am gynnal adolygiad o’r sianel rhywbryd yn ystod 2017, ond mae dyddiad dechrau’r adolygiad yn amwys o hyd.

Bydd yr adolygiad yn ystyried pwrpas y Sianel Gymraeg, sut orau i’w chyllido ac mae’n debyg bydd hi’n cynnwys trafodaeth am ddatganoli darlledu.

Mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad eisoes wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu cynnal ymchwiliad eu hunain i ddyfodol S4C.

“Mater i’r adran Ddiwylliant”

“Mae amseriad cynnal yr Adolygiad Annibynnol i gylch gorchwyl, atebolrwydd a chyllido S4C yn fater i’w benderfynu gan adran Ddiwylliant y Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r Adolygydd pan fydd y gwaith yn dechrau er mwyn sicrhau sefydlogrwydd hir dymor, cylch gorchwyl addas ac adnoddau ariannol i S4C.”