Mae mudiad Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at y rheoleiddiwr Ofcom i gwyno am sianel newydd fydd yn darlledu yng ngogledd Cymru.

Mewn llythyr at y rheoleiddiwr, mae Cymdeithas yr Iaith wedi dweud nad yw’n dderbyniol bod Made in North Wales TV wedi cael ei drwyddedu gan mai dim ond rhyw 3% o oriau darlledu wythnosol y sianel fydd yn Gymraeg.

Mae’n debyg mai dim ond gwerth hanner awr o ddeunydd Cymraeg fydd yn cael ei gynhyrchu gan y cwmni bob wythnos a dim ond 16% o oriau darlledu wythnosol fydd â chynnwys lleol.

Mae ‘Made in North Wales TV’ hefyd wedi’i feirniadu gan fod brandio a phresenoldeb y gwasanaeth ar gyfryngau cymdeithasol ac ar-lein yn uniaith Saesneg.

“Patrwm o ymddygiad”

Dywed Cymdeithas yr Iaith yn y llythyr: “Mae’r problemau hyn yn rhan o batrwm o ymddygiad gan Ofcom, sy’n ffafrio anghenion busnesau mawrion yn hytrach na’r gymuned leol a’r Gymraeg. Nid oes ffydd gennym fod y system yn gwneud unrhyw beth o sylwedd i hyrwyddo’r Gymraeg.

“Mae caniatáu cyn lleied o gynnwys Cymraeg a chynnwys a gynhyrchwyd yn lleol ar y gwasanaethau teledu lleol hyn, yn debyg i’r hyn rydym wedi gweld ar radio masnachol lleol dros y degawdau diwethaf. Mae’r sefyllfa yn gwbl annerbyniol.”

Bydd rhaglenni’r sianel yn cael eu creu yn stiwdios y cwmni yn Lerpwl ac mi fydd y sianel yn dechrau darlledu ar ddiwedd y mis.

Bydd Ofcom yn ymateb i’r sylwadau yn fuan, yn ôl llefarydd ar ran y rheoleiddiwr.

Ymateb Made Television 

Mae Made Television wedi ymateb gan ddweud nad oedd unrhyw ymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn y drwydded yn wreiddiol, ac mai nhw oedd yn gyfrifol am ychwanegu’r gofyniad i’w hymrwymiadau rhaglennu.

Hefyd, mae’r sianel yn dweud eu bod yn bwriadu cynnig mwy na hanner awr o ddeunydd Cymraeg pob wythnos ac yn dweud bydd holl gynnwys gwreiddiol y sianel caiff ei ffilmio ar leoliad yn cael ei ffilmio yn ardal gogledd Cymru.