Bafta
Mae ffilm gafodd ei chreu i gofio hanner can mlynedd ers trychineb Aberfan wedi’i henwebu ar gyfer gwobr BAFTA eleni.

Mae’r ffilm ar ffurf cerdd, Aberfan: The Green Hollow, wedi’i henwebu ymhlith pedwar arall yn y categori drama sengl orau.

Cafodd ei hysgrifennu gan yr awdur Owen Sheers, ac yn perfformio ynddi mae Michael Sheen, Sharon Morgan, Jonathan Pryce, Sian Phillips, Richard Lynch, Eve Myles, Iwan Rheon a Matthew Gravelle ynghyd ag aelodau o’r gymuned leol.

Mae’r ffilm yn canolbwyntio ar dair elfen, sef y plant, y rhai fu’n achub a’r rhai wnaeth oroesi’r trychineb ar 21 Hydref 1966 pan gafodd 144 o bobol eu lladd wedi i’r domen lo lithro dros y pentref a chladdu’r ysgol gynradd.

Yn cystadlu yn erbyn y ffilm yn yr un categori mae Damilola, Our Loved Boy; Murdered By My Father; ac NW.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni yn Llundain ar 14 Mai 2017.