Fe fydd S4C yn cydweithio â’r darlledwr Siapaneaidd NHK ar gyfres wyddoniaeth newydd Y Corff.

Mae’r gyfres yn cael ei disgrifio gan S4C fel “cipolwg ffres a phellgyrhaeddol ar sut mae’r corff dynol yn gweithio”, ac fe gafodd y bartneriaeth ei chyhoeddi ym marchnad deledu a digidol MIPTV yn Cannes yn Ffrainc.

Mae disgwyl i’r gwaith cynhyrchu ddod i ben y gwanwyn nesaf gan ddefnyddio’r dechnoleg ddelweddu ddiweddaraf UHD, er mwyn dangos sut mae ein horganau a’n celloedd yn rhyngweithio â’i gilydd.

Gan ddefnyddio’r dechnoleg, fe fydd y gyfres yn dangos sut mae gwahanol rannau o’r corff yn rhyngweithio â’i gilydd mewn modd sy’n gallu cael ei gymharu â rhwydweithiau cymdeithasol.

Bydd y gyfres yn cael ei darlledu mewn tair rhan yng Nghymru, ac mewn wyth rhan yn Japan.

‘Rhwydwaith enfawr a dirgel’

Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y gyfres ac ysgogwr y prosiect, Takehiro Asai, fod y corff yn “rhwydwaith enfawr a dirgel”, a bod ei gwmni’n “edrych ymlaen at allu rhannu gwybodaeth newydd gyda’r byd”.

“Mae’r gwaith ffilmio yn mynd yn dda ac rydym wrth ein bodd bod S4C wedi ymuno fel ein partner cyd-gynhyrchu cyntaf ar y gyfres hon,” meddai.

“Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â nhw i ddangos i wylwyr bod y corff yn gweithredu mewn ffyrdd sy’n wahanol iawn i’r farn gonfensiynol amdano.”