John Ogwen fel y cymeriad, Josh (Llun: BBC Cymru)
Mae John Ogwen, un o actorion enwocaf Cymru, yn ymuno gyda chast Pobol y Cwm.

Bydd yn chwarae cymeriad lliwgar a hoffus o’r enw Josh, fydd i’w weld ar y sgrîn am y tro cyntaf ar S4C nos Wener, Ebrill 7.

Er bod John Ogwen yn wyneb cyfarwydd mewn nifer fawr o gyfresi drama yn y Gymraeg yn ystod gyrfa sydd wedi para bron i hanner can mlynedd, hwn fydd y tro cyntaf iddo ymddangos yn opera sebon deledu hynaf y BBC, er iddo dreulio cyfnod fel awdur ar y gyfres yn ystod y blynyddoedd cynnar.

“Dw i erioed wedi bod yng Nghwmderi o’r blaen,” meddai’r actor 72 oed, “ond mi wnes i sgwennu nifer fawr o benodau Pobol y Cwm yn y dyddiau cynnar – degau ohonyn nhw mae’n siŵr, flynyddoedd yn ôl, felly dyna oedd fy nghysylltiad i â Chwmderi cyn hyn.

“Mae Josh yn gymeriad lliwgar sydd wedi profi pob math o bethau yn ystod ei fywyd – a dyna sydd yn ei wneud yn gymeriad cynnes a hoffus o amgylch y pentref. Mae fel hoff daid neu ewythr i bawb, ac er eich bod yn gwybod bod pob stori wedi tyfu a thyfu dros y blynyddoedd, does neb yn poeni gan fod bod yn ei gwmni yn bleser pur!”