Mae cwmni teledu Tinopolis wedi dweud wrth un o bwyllgorau’r Cynulliad y dylai S4C fod yn gyfrifol am Radio Cymru, yr Urdd a’r Cyngor Llyfrau.

Ers ei sefydlu yn 1990, mae Tinopolis wedi tyfu a bellach yn berchen ar y cwmnïau sy’n cynhyrchu Question Time, rhaglenni pêl-droed BT Sport, Robot Wars ac American Ninja Warrior.

Hefyd mae’r cwmni o Lanelli yn cynhyrchu’r rhaglenni HenoPnawn Da a Ralïo i S4C.

Edrych ar ddyfodol S4C

Yr wythnos hon roedd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cwrdd i drafod tystiolaeth gan wahanol gwmnïau teledu ynghylch dyfodol S4C.

Tra mae Llywodraeth Prydain wedi addo cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i’r Sianel Gymraeg ryw dro eleni, mae Pwyllgor Diwylliant y Cynulliad eisoes wedi cychwyn ei ymchwiliad ei hun ‘er mwyn dylanwadu ar adolygiad Llywodraeth y DU, pan fydd hwnnw’n cael ei gynnal’.

Nid yw darlledu wedi ei ddatganoli ac felly Llywodraeth Prydain sy’n gyfrifol am S4C.

Ar ôl derbyn tystiolaeth, mae disgwyl i’r Pwyllgor Diwylliant lunio adroddiad gydag argymhellion ynghylch dyfodol S4C.

Tystiolaeth Tinopolis

Yn ei dystiolaeth i’r Pwyllgor Diwylliant mae Tinopolis yn argymell troi S4C yn gorff llawer mwy o faint, gyda chyfrifoldeb am Radio Cymru, y Cyngor Llyfrau a chyrff eraill sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg:

‘Mae’n llywodraethau wedi gweld yn angenrheidiol ac yn dda i roi cymorth ariannol i ystod eang o wasanaethau a chynhyrchion Cymraeg. Mae’r rhain yn cynnwys teledu, radio a ffilmiau, llyfrau, papurau newydd, yr Urdd, deunyddiau addysgol a’r celfyddydau. Rhoddwyd cyllid i fentrau cymunedol hefyd, yn arbennig y Mentrau Iaith.

‘Credwn fod yna ddadl dros ddwyn ynghyd y gosod strategaeth, cyllido a chyflwyno’r cynhyrchion a’r gwasanaethau hyn.’

Yn ôl Tinopolis, nid yw yn gwneud synnwyr o fath yn y byd bod S4C yn gyfrifol am deledu a’r BBC yn gyfrifol am Radio Cymru, a dylid uno’r ddau wasanaeth dan ambarél y Sianel Gymraeg.

Hefyd maen nhw yn dweud bod Cyngor Llyfrau Cymru wedi methu creu strategaeth ddigidol drefnus a bod ‘llyfrau a phapurau newydd Cymraeg yn araf yn symud i’r cyfrwng digidol. Mae hyn yn annerbyniol mewn diwydiannu lle mae systemau dosbarthu’r dyfodol yn ddigidol. Mae’r potensial i wella traws-hyrwyddo a chydlyniant mor fawr fel bod angen gweithredu ar frys’.

Yr wythnos hon roedd papur newydd The Guardian yn adrodd bod Tinopolis ar werth am £300 miliwn.