Brett Johns Llun: S4C
Wrth iddo baratoi i wireddu breuddwyd yn yr O2 yn Llundain ar 18 Mawrth, fe fydd S4C yn darlledu rhaglen am yr ymladdwr MMA (Crefftau Ymladd Cymysg) o Bontarddulais, Brett Johns ar 15 Mawrth.

Fe fydd y Cymro Cymraeg yn ymladd yn erbyn y Sais Ian ‘Enty’ Entwistle yn yr arena fawr yn Llundain ar yr un noson â’i arwr Brad Pickett, wrth iddo yntau ddod â’i yrfa i ben.

Mae’r Cymro Cymraeg eisoes wedi creu argraff ar y sîn UFC (Ultimate Fighting Championship), gan ennill ei ornest gyntaf yn Belfast y llynedd.

Wrth iddo baratoi ar gyfer y ffeit fawr, fe fydd S4C yn dilyn hynt a helynt gyrfa’r Cymro hyd yn hyn yn y rhaglen Brett Johns: Ymladdwr UFC ar nos Fercher, 15 Mawrth am 9.30pm.

Ac fel y mae’n cyfaddef ar drothwy’r rhaglen, fe dreuliodd oriau cinio di-ri yn llyfrgell Ysgol Gyfun Gŵyr yn gwylio fideos o’i arwr.

Dywedodd Brett Johns: “Mae’r ffeit yma yn Llundain yn un bersonol i fi. Bob amser cinio, o’n i’n mynd ar YouTube a gwneud searches am Brad Pickett a’r UFC. Fast forward wyth mlynedd, a fi ar ei gerdyn olaf e.

“Fi wedi mynd o fod yn 16 oed yn yr ysgol yn gwylio fe ar y cyfrifiadur i nawr, lle fi ar yr un cerdyn â fe ar yr un noson.”

Taith i’r UFC

 

Ac yntau bellach yn 25 oed, mae Brett Johns wedi mynd ymhell ers dyddiau ei blentyndod yn ymarfer jiwdo yng nghampfa ei lystad Andrew Burt.

Fe fydd y rhaglen yn rhoi sylw i’w ornestau ar lefelau cenedlaethol a rhyngwladol yn Titan FC yn yr Unol Daleithiau.

Dywedodd: “Dechreuais i gyda jiwdo pryd o’n i’n bedair, a fi wedi gwneud blynyddoedd o jiwdo. Ond o’n i eisiau rhywbeth arall. O’n i wedi mynd i’r gym BJJ (Brazilian jiu-jitsu) lleol, y Chris Rees Academy, i wella sgiliau fi ar y llawr, fel submissions, a dyna le o’n i wedi gweld yr MMA gyntaf. O’n i jyst wedi syrthio mewn cariad gyda’r gamp wedyn.”

Ymroddiad

Mae Brett Johns yn un o griw dethol iawn o Gymru sydd wedi llwyddo yn y byd MMA, a hynny am resymau corfforol a meddyliol, yn ôl yr ymladdwr ei hun.

“I fod yn onest, mae e wedi bod yn galed iawn i fi. Mae’n rhaid i ti gael y ffitrwydd, mae’n rhaid i ti ennill y rhan fwya’ o’r amser. Mae e mor galed yn yr MMA. Rhaid i ti gael y tîm cywir y tu ôl i ti, a fi jyst yn lwcus bo fi’n ymarfer gyda Chris Rees yn Abertawe.”

Ond hanner y frwydr yn unig yw cael tîm cefnogol. Fel yr eglura, mae’r gwaith paratoi cyn pob ffeit yn galw am ymroddiad corfforol a meddyliol bob dydd am hyd at ddeufis.

“Fi’n cael camp cyn bob ffeit – tua chwech i wyth wythnos o ymarfer. Mae’r ymarfer yn intense, tair gwaith y dydd, chwe diwrnod yr wythnos. Mae e’n galed iawn. Ti’n cael lot o anafiadau yn y gamp yma, ond rhaid i ti gerdded trwyddo fe.”

Mae S4C yn darlledu Brett Johns: Ymladdwr UFC ar drothwy cyfres newydd Y Ffeit, fydd yn dechrau ar 29 Mawrth, gan roi sylw mewn chwe rhaglen awr o hyd i uchafbwyntiau tair gornest MMA a thair gornest focsio.

Brett Johns: Ymladdwr UFC, S4C, 15 Mawrth, 9.30pm.