Ers i’r cyhoeddiad ddod ym mis Chwefror bod ffilm am lwyddiant anghredadwy Cymru ym mhencampwriaeth Ewro 2016 ar y ffordd, fe gafodd miloedd o gefnogwyr y crysau cochion y cyfle i fynd i sinemâu ledled y wlad neithiwr a chael eu hatgoffa o’r haf bythgofiadwy hwnnw.

Roedd y cyfarwyddwr, Jonny Owen, wedi sôn bod y ffilm yn dweud stori lwyddiant annisgwyl yn ogystal ag adrodd hanes gwlad yn darganfod ei lle yn y byd.

Er mwyn casglu deunydd ar gyfer y ffilm, bu Jonny Owen yn cyfweld â’r holl chwaraewyr a bu’n ddigon ffodus i dderbyn deunydd tu ôl i’r llenni gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru… ond roedd safbwynt y cefnogwyr yn bwysig iddo hefyd.

Barn Bryn Law

Roedd y gohebydd a’r cefnogwr brwd, Bryn Law, yn Llundain i wylio’r ffilm ar noson Dydd Gwyl Dewi.

“Mi wnes i gwrdd â Jonny Owen yn Ffrainc ac, fel fo, o’n i yno fel cefnogwr yn mwynhau’r profiad ar ôl bywyd o siom,” meddai Bryn Law wrth golwg360.

“Mae wedi llwyddo i gyfleu hynna gyda phrofiad y rheiny tu fewn i’r garfan. Mi wnes i grio a chwerthin wrth ei gwylio. Roedd wedi cael gafael ynof i o’r dechrau, oherwydd mae’n mynd yn ôl at gyfnod y diweddar Gary Speed, dagrau o ddristwch i ddagrau o hapusrwydd…”

Mae’r ffilm wedi cael ymateb da, gyda nifer o’r 70 sinema ledled Cymru oedd yn ei dangos yn llawn.