Mae’r BBC wedi cyhoeddi y byddan nhw’n buddsoddi £8.5 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn ar gyfer rhaglenni Saesneg i Gymru.

Mae hyn yn gynnydd o 50% fydd yn dod i rym erbyn 2019/20, gan godi cyfanswm buddsoddiad y BBC mewn gwasanaethu teledu Saesneg i Gymru i £30m.

Mae’r cyllid ychwanegol yn golygu y bydd BBC Cymru, medden nhw, yn datblygu cynnwys comedi, adloniant, drama a diwylliant ynghyd â datblygu gwasanaethu newyddion ar-lein a symudol.

Ymrwymiadau’r cyllid

Mae disgwyl i’r cyllid newydd gyfrannu at:

  • 130 awr o raglenni ychwanegol bob blwyddyn BBC One Wales, BBC Two Wales a BBC iPlayer
  • cynhyrchu buddsoddiad o leiaf £5m ychwanegol drwy gytundebau cyd-gynhyrchu gyda darlledwyr a chynhyrchwyr eraill
  • cefnogi sianel newydd BBC Cymru ar iPlayer a chartref newydd i raglenni Cymreig ar draws pob dyfais ac ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig
  • hybu portread a sylw i Gymru ar rwydwaith y BBC
  • rhoi hwb ariannol i’r sector cynhyrchu yng Nghymru gyda’r holl gyllid teledu yn agored i gystadleuaeth lawn.

‘Llwyfan haeddiannol’

“Mae Cymru yn wlad sydd wedi ei bendithio â storïwyr o fri, ac fe fydd y buddsoddiad yma yn rhoi llwyfan haeddiannol a chenedlaethol iddynt,” meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru.

“Erbyn i ni gyrraedd ein cartref newydd yn y Sgwâr Canolog, mewn llai na thair blynedd, dw i’n credu y bydd y gwahaniaeth ar ein sgrin yn glir i’n cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru.

“Bydd y buddsoddiad newydd yma hefyd yn ein galluogi i ddenu cyllid ychwanegol drwy gyd-gynhyrchu, gan ddefnyddio’r modelau cydweithio yr ydym wedi eu datblygu gydag S4C ac eraill i ariannu cyfresi megis Hinterland.”

Dywedodd y bydd hefyd yn hwb i wasanaethau newyddion i Gymru ynghyd â gwasanaethau ar-lein amlgyfrwng.

‘Rhaglenni safonol’

Mae Aelod Cynulliad Llafur Llanelli, Lee Waters, wedi croesawu’r buddsoddiad ond mae hefyd yn nodi: “mae cyhoeddiad y BBC yn mynd â nhw’n ôl i’r math o lefelau yr oedden nhw’n ei wario degawd yn ôl, cyn iddyn nhw ddechrau torri cyllideb rhaglenni cyfrwng Saesneg yng Nghymru.”

Er hyn dywedodd, “rwy’n falch fod yr uchelgais i dargedu’r cynllun ar raglenni safonol all ennill eu lle ar brif rwydwaith y BBC fel bod straeon Cymreig yn gallu cael eu gweld a’u clywed ledled y Deyrnas Unedig.”