Mae S4C wedi dweud nad oes modd cymharau’r sianel â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y Coleg yn talu lot llai o rent na’r hyn fyddai S4C yn ei wneud yng Nghaerfyrddin.

Mewn ymateb i gais rhyddid gwybodaeth, ddaeth i law y BBC, fe ddaeth i’r amlwg mai £26,000 y flwyddyn y mae’r Coleg Cymraeg yn ei dalu am swyddfeydd yn adeilad Llwyfan, ger campws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Mae S4C wedi cytuno i dalu rhent gwerth £3 miliwn o flaen llaw i brosiect Yr Egin, sy’n cyfateb i £150,000 y flwyddyn.

“Ni ellir cymharu sefyllfa’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ag S4C. Mae’r swm mae’r Coleg yn ei dalu ar gyfer swyddfeydd sy’n 12 mlynedd oed ac am y cyfnod presennol,” meddai llefarydd ar ran S4C.

“Mae’r hyn mae S4C yn bwriadu ei dalu ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf ac ar gyfer swyddfeydd o safon uchel, fydd yn rhoi sicrwydd, di-risg i S4C.”

Mae disgwyl i S4C symud ei phencadlys o Gaerdydd erbyn y flwyddyn nesaf, gan symud 55 o swyddi draw i’r gorllewin.

“Tebyg i gynllun y BBC”

“Mae gan S4C gynllun busnes 20 mlynedd, sydd yn gost niwtral, ond sydd hefyd yn cynnig yr opsiwn o ymestyn i les 25 [mlynedd] ar ddim cost ychwanegol,” meddai llefarydd S4C wedyn.

“Ni fydd unrhyw adolygiadau rhent ar draws y cyfnod o dan y trefniant yma. Roedd y prisiau a gytunwyd yn unol â barn y Prisiwr Dosbarth am werthoedd rhent yng Nghaerfyrddin.

“Mae cynllun Yr Egin yn cynnig canolfan fydd yn ddeniadol i glwstwr o ddiwydiannau creadigol yng nghefn gwlad Cymru.

“Gellid cymharu yn uniongyrchol â bwriad BBC Cymru yn Sgwâr Ganolog Caerdydd, sydd yn ôl adroddiadau yn y wasg yn costio £25/troedfedd sgwâr, er mwyn creu adeilad eiconig fydd yn trawsnewid economi canol Caerdydd. Yr un yw bwriad S4C yn ardal Caerfyrddin.”