O'r chwith i'r dde: Nick Whittingham (Prif Gonswl Prydain yn Wuhan), Samira Mohamed Ali (Tanabi), Chris Foxall (Ymgynghorydd i Gyngor Dinas a Sir Abertawe) ac Euros Jones-Evans (Tanabi)
Mae ffilm gan gwmni Tanabi o Abertawe wedi ennill gwobr Ffilm Orau Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Wuhan yn China.

Cafodd ‘By Any Name’ ei henwi gan y beirniaid hefyd ymhlith eu 10 hoff ffilm yng Ngŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Wuhan yn nhalaith Hubei.

Cafodd y ffilm ei dangos yn ystod yr ŵyl.

Cafodd y ffilm, sy’n addasiad o nofel Katherine John, ei ffilmio yn Abertawe a Bannau Brycheiniog dros gyfnod o 16 diwrnod yn unig yn 2014 ac mae’r actorion Samira Mohamed Ali o Gastell-nedd a Cengiz Dervis yn ymddangos yn y ffilm.

Mae’r ffilm eisoes wedi ennill gwobrau  a chydnabyddiaeth yng Nghymru a thu hwnt, ac fe gafodd y wobr ddiweddaraf ei chyflwyno i Brif Weithredwr Tanabi, Euros Jones-Evans gan Brif Gonswl Prydain yn Wuhan, Nick Whittingham yn ystod ei ymweliad ag Abertawe brynhawn ddydd Gwener.

‘Andros o gyffrous’

Ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Euros Jones-Evans wrth Golwg360: “Dan ni’n andros o gyffrous oherwydd fod ‘By Any Name’ wedi’i sgrinio yn China i ddechrau.

“Yn ffodus iawn, gaethon ni fewn i’r ŵyl ffilmiau a wnaethon ni gyrraedd y 10 uchaf yng Ngwobr y Beirniaid. Dan ni’n falch iawn o’r anrhydedd gan fod China mor fawr.

“Dan ni’n dal i fynd o ran momentwm y peth, a gobeithio bod hwn yn mynd i helpu hefyd o ran y bartneriaeth rhwng Cymru a China hefyd.”

‘Cyfle’

Wrth i fusnesau yng Nghymru chwilio am gyfleoedd i fasnachu a hyrwyddo cynnyrch ar draws y byd yn sgil Brexit, mae Euros Jones-Evans yn gweld cyfle i fanteisio ar y cysylltiad rhwng Abertawe a Wuhan er mwyn ennyn cefnogaeth cynulleidfaoedd newydd yn China.

Ychwanegodd: “Mae’n rhoi opsiwn arall heblaw’r Undeb Ewropeaidd ar y funud. Dan ni ddim yn gwybod be fydd yn digwydd dros y flwyddyn neu ddwy nesa’, felly dan ni’n edrych ar opsiynau tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a’r Unol Daleithiau hefyd.

“O ran buddsoddiadau ac arian yn dod i mewn, dan ni ddim fel gwlad yn edrych lot tu allan i Gymru. Mae’n gyfle i ni adeiladu a gweld lle allwn ni baru efo cwmnïau neu fuddsoddwyr dramor.

“Mae’n gyfnod cyffrous, er bo ni ddim yn gwybod be sy’n mynd ymlaen, ac mae’n rhaid i ni edrych ymlaen a dal i wthio ymlaen.”

Darllenwch ragor am wreiddiau’r cyswllt rhwng Abertawe a Wuhan, a pham fod Griffith John, y pregethwr a’r cenhadwr, yn cael ei gofio yn y ddwy ddinas hyd heddiw.