Mae angen i’r BBC wario £30m yn ychwanegol ar ddarlledu am Gymru a dramâu Saesneg, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad Cenedlaethol.

Bu Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn ymchwilio i ddiwydiant y cyfryngau darlledu yng Nghymru ac mae rhestr o 11 o argymhellion wedi ei llunio ganddo.

Daeth y pwyllgor i’r casgliad bod Cymru yn colli allan ar gyllid y BBC ar gyfer rhaglenni Saesneg eu hiaith sy’n canolbwyntio ar Gymru.

Yn ôl y pwyllgor, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall fod angen pecyn ariannu gwell ar Gymru ac addawodd y byddai yn cynnig ffigyrau cadarn ynglŷn â’r mater yn gynnar yn 2017.

S4C

Un o argymhellion y pwyllgor yw ni ddylai fod unrhyw doriadau i gyllid S4C tan fod adolygiad ariannu’r sianel wedi dod i ben.

Er nad ydi’r Pwyllgor yn gofyn am fwy o arian, mae’n nodi bod cyllid y sianel wedi gostwng mwy na thraean ers 2010, ac maen nhw wedi amcangyfrif bod tua 57% o gynnwys y sianel yn ailddarllediadau.

“Mae’r lefel uchel o ailddarllediadau ar S4C yn achos pryder ac o ganlyniad uniongyrchol i doriadau cyllido ar raddfa fawr, a dyna pam na hoffem weld gostyngiadau pellach tan y caiff canlyniadau’r adolygiad arfaethedig eu cyhoeddi,” meddai Cadeirydd y Pwyllgor, Bethan Jenkins.

“Cyn bo hir, byddwn yn cynnal ein hymchwiliad ein hunain i ddyfodol S4C, y byddwn yn ei gynnwys yn adolygiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Radio 1 ac ITV

Mae’r pwyllgor hefyd yn galw am gyflwyniad newyddion Cymreig ar Radio 1 a Radio 2 a’n argymell bod ITV yn datblygu mwy o raglenni sy’n adlewyrchu bywyd yng Nghymru.