Syr John Hurt (llun: PA)
Mae’r actor Syr John Hurt wedi marw yn 77 oed.

Roedd yn adnabyddus am ei rannau mewn llu o ffilmiau dros gyfnod o hanner canrif a mwy, gan gynnwys Quentin Crisp yn The Naked Civil Servant, prif ran The Elephant Man a Mr Ollivander yn ffilmiau Harry Potter.

Cafodd ei enwebu am Oscar am ei rannau yn The Elephant Man a Midnight Express, ac enillodd bedair gwobr Bafta, gan gynnwys un i gydnabod ei gyfraniad nodedig i fyd ffilmiau Prydeinig yn 2012.

Yn enedigol o Chesterfield yn Swydd Derby, daeth i amlygrwydd yn gyntaf fel Richard Rich yn A Man For All Seasons, ac yn ddiweddarach fel Timothy Evans, y Cymro a gafodd ei grogi ar gam, yn 10 Rillington Place.