Cerys Matthews - un o'r cenhadon (gingerblokey CCA3.0)
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi mai Cerys Matthews ac Iwan Rheon fydd cenhadon ‘Blwyddyn Chwedlau’ Cymru, sy’n ymgyrch i geisio denu twristiaid yn 2017.

Fe fydd y gantores a’r actor o gyfres y Game of Thrones yn dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch “fydd yn dod â gorffennol Cymru’n fyw,” sy’n defnyddio hanes a chwedlau Cymru i farchnata’r wlad i dwristiaid.

“Mae chwedlau a mythau Cymru wedi bod yn ysbrydoliaeth anferth i greadigrwydd o bob math – ym myd cerdd, celf a llên,” meddai Cerys Matthews, cyn gantores y band Catatonia a sylfaenydd y ‘Good Life Experience Festival’.

“Trwy roi gwedd fodern i’n straeon, gallwn greu profiadau chwedlonol ac ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol.”

Dangos mai “i’r gorffennol y mae’r Gymraeg yn perthyn”

Yn Golwg yr wythnos hon, mae’r ysgolhaig Simon Brooks wedi codi cwestiynau ynghylch thema’r ymgyrch, gyda phryderon y gallai ddangos mai “i’r gorffennol y mae’r Gymraeg yn perthyn” o’r rhestr o ‘chwedlau’ sydd wedi’u cynnwys.

“Ar yr wyneb, mae’n ymddangos yn iawn ein bod ni’n creu rhyw fath o dwristiaeth ddiwylliannol yng Nghymru,” meddai Simon Brooks. “Ond y cwestiwn ydi – diwylliant pwy?”

“Yr hyn dy’n ni’n ei gael ydi naill ai llenorion o Saeson fel Tolkein, neu bobol sydd wedi dod yn enwog am eu bod nhw’n boblogaidd ymysg Saeson yn cael eu dathlu ar draul ein diwylliant cynhenid.”

Ac mae’r hanesydd Elin Jones wedi codi amheuon am gysylltu chwedlau gyda hanes go iawn.

‘Creu chwedlau newydd’

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn yr ymgyrch ac yn y datganiad diweddara’, mae Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, fod yr ymgyrch yn gwneud mwy nag “edrych tua’r gorffennol”.

“Bydd Blwyddyn y Chwedlau’n dod â’r gorffennol yn fyw mewn ffordd cwbl newydd ac arloesol,” meddai. “Y bwriad yw creu a dathlu chwedlau, cymeriadau, cynnyrch a digwyddiadau newydd, cyfoes a modern sy’n cael eu gwneud yng Nghymru neu sy’n cael eu cyfoethogi o fod yma.”

Dyma’r ail flwyddyn i’r ymgyrch i ddenu twristiaid yng Nghymru gael ei selio ar thema benodol, y llynedd roedd hi’n ‘Flwyddyn Antur’ ac yn 2018, ‘Blwyddyn y Môr’ fydd hi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clodfori ffigurau diweddar, sy’n dangos bod ymwelwyr undydd â Chymru wedi gwario dros 40% yn fwy a bod nifer y twristiaid rhyngwladol wedi cynyddu 15% yn ystod chwe mis cynta’ 2016.