Debbie Reynolds a Carrie Fisher (Llun: PA)
Mae Debbie Reynolds a’i merch Carrie Fisher wedi cael eu claddu gyda’i gilydd yn dilyn eu hangladd fore Sadwrn.

Cafodd y gwasanaeth angladdol ei gynnal yn Los Angeles, cyn iddyn nhw gael eu claddu mewn gwasanaeth preifat ym mynwent Forest Lawn ar gyrion Hollywood.

Ar ôl y gwasanaeth, dywedodd Todd Fisher, brawd Carrie Fisher a mab Debbie Reynolds: “Cawson ni wasanaeth hyfryd.”

Dywedodd y byddai gwasanaeth coffa’n cael ei gynnal yn y dyfodol.

Ychwanegodd fod ei fam a’i chwaer “gyda’i gilydd, ac y byddan nhw gyda’i gilydd yma ac yn y nefoedd”.

Bu farw Carrie Fisher yn 60 oed ar Ragfyr 27 ar ôl cael trawiad ar y galon ar awyren o Lundain i Los Angeles cyn y Nadolig.

Bu farw Debbie Reynolds, seren ‘Singin In The Rain’ yn 84 oed y diwrnod canlynol, a’r gred yw ei bod hi wedi cael strôc.

Ymhlith y rhai yn eu hangladd roedd Gwyneth Paltrow, George Lucas, Meryl Streep, Stephen Fry, Eric Idle, Courtney Love, Jamie Lee Curtis a Meg Ryan.

Mae lle i gredu bod hyd at 125 o bobol yn y gwasanaeth.

Canodd Meryl Streep ‘Happy Days Are Here Again’, un o hoff ganeuon Carrie Fisher, yn ystod y gwasanaeth.

Cafodd goleuadau Broadway yn Efrog Newydd eu pylu ar gyfer perfformiadau’r nos, ac mae lle i gredu bod y gynulleidfa wedi cymeradwyo’r ddwy am funud am 7.45pm.