Carey Muligan (Eva Rinaldi CCA2.0)
Fe ddatgelodd yr actoress Carey Mulligan mai ei mam-gu o Gymraes – ‘Nans’ – sydd wedi ei hysbrydoli actores i weithio’n agored er mwyn ceisio ymladd clefyd dementia ac Alzheimer.

Er ei bod yn cadw’i bywyd personol iddi ei hun, fe ddywedodd ei bod hi’n falch o fod yn llysgennad tros ddwy elusen, Cymdeithas Alzheimer a War Child, a hynny am resymau “personol ac emosiynol”.

Fe ddatgelodd ei theimladau wrth fod yn olygydd gwadd i raglen radio’r BBC, Today, gan ddweud ei bod yn ei theimlo hi’n fraint i “wneud rhywbeth bach” tros y ddwy elusen.

Yn y gorffennol, mae’r actores 31 oed, sydd â’i mam yn dod o ardal Llandeilo yn Sir Gaerfyrddin, wedi disgrifio sut y dechreuodd dementia effeithio ar ei mam-gu bymtheng mlynedd yn ôl.

‘Afiechyd y mae’n rhaid ei ymladd’

Ar y rhaglen radio heddiw, fe ddywedodd ei bod eisiau i bobol sylweddoli nad cyflwr sy’n  bownd o ddigwydd mewn henaint yw dementia.

“Mae’n glefyd ar yr ymennydd – mae yna sawl math gwahanol o dementia a chlefyd Alzheimer yw un ohonyn nhw ac [mae angen] lledu’r ymwybyddiaeth fel bod pobol wiry n deall bod hwn yn afiechyd y mae’n rhaid i ni ei ymladd.”

Fe fu’n siarad ar Today gydag actor Monty Python, Michael Palin, oedd yn sôn am y ffordd y mae dementia hefyd yn effeithio ar ei gyd Bython, Terry Jones, yr actor o Fae Colwyn.