Sian Price
Mae’r cwmni cynhyrchu Rondo Media wedi penodi Siân Price i arwain eu his-gwmni, Yeti Media, gafodd ei sefydlu ddwy flynedd yn ôl.

Cafodd ei sefydlu yn dilyn llwyddiant cyfres ddrama y BBC The Indian Doctor, ac mae’n canolbwyntio ar ddogfennau rhwydwaith a rhaglenni ffeithiol.

Bydd penodiad Siân Price yn helpu “sicrhau comisiynau ac atgyfnerthu ein henw da fel cyflenwr rhwydwaith annibynnol allweddol y tu allan i Lundain,” meddai Gareth Williams, Prif Weithredwr Rondo Media.

Mae gan Siân Price brofiad o gyfarwyddo a chynhyrchu ffilimau a rhaglenni teledu a hithau wedi gweithio yn y maes am ugain mlynedd i’r BBC a chwmnïau annibynnol eraill fel Studio Lambert, Indus Films a Diverse TV a chyd-sylfaenu Tinderbox Production.

Fe fydd yn cymryd at y gwaith o gwblhau rhifyn arolwg ditectif Britain’s Favourite TV Detective fydd yn cael ei ddarlledu ym mis Ionawr.